Gwnewch We Geiriau

Ymarferwch drosi syniadau haniaethol yn ddelweddau cadarn

Sefydlu

Bydd y gweithgaredd hwn yn cymryd 15 i 20 munud. Dylai fod gennych chi'r deunyddiau hyn wrth law:

  • Dalenni mawr o bapur
  • Llawer o beniau o wahanol liwiau
  • Nodiadau gludiog

Lawrlwythwch ac argraffwch yr arweiniad gweithgaredd

open laptopGoing Virtual?

Use a virtual whiteboard to run this activity. The Zoom meeting software has it built in, but websites like Miro offer web-based alternatives with more features. If any participants have tablets with pens ask them to use those.

1

Cefndir

Weithiau, wrth ganol eich stori data mae syniad haniaethol, fel "hinsawdd", "anghyfiawnder", neu "hawliau". Mae syniadau haniaethol yn anodd eu dychmygu, ac yn anodd byth eu darlunio. Mae'r gweithgaredd hwn yn eich helpu i feddwl am syniadau mwy diriaethol sy'n gysylltiedig â'r cysyniadau haniaethol. Mae'n eich helpu hefyd i feddwl am symbolau gweledol y gallech chi eu hymgorffori yn nes ymlaen mewn dyluniad gweledol sy'n dweud eich stori data. Mae gwneud gweoedd geiriau yn annog gwaith tîm cydweithredol a thaflu syniadau ar y cyd.

2

Cychwyn y Gweithgaredd

Dechreuwch drwy daenu dalenni mawr o bapur, pob un â chysyniad haniaethol wedi'i ysgrifennu yn y canol. Dylai'r cysyniadau ddod o stori seiliedig ar ddata rydych chi'n gweithio gyda hi. Mae geiriau fel "tlodi", "anghyfiawnder", a "hapusrwydd" i gyd yn enghreifftiau da o gysyniadau haniaethol sy'n dod o storïau seileidig ar ddata.

Rhowch ben i bob cyfranogwr a'u rhannu'n grwpiau o 5 neu 6, gyda phob grŵp yn cael ei aseinio i un o'r darnau o bapur rydych chi newydd eu dangos. Dwedwch wrth y cyfranogwyr y dylen nhw ddechrau drwy dynnu llinell o'r gair canol ac ysgrifennu gair arall maen nhw'n ei gysylltu â'r gair cyntaf. Daliwch ati i ychwanegu geiriau sy'n gysylltiedig â'r gair cyntaf neu â'r geiriau mae pobl eraill yn eu hychwanegu. Rhowch 6 munud i'r grwpiau daflu syniadau ac ysgrifennu geiriau. Yn y diwedd dylai pob darn o bapur edrych fel gwe o eiriau, wedi'u cysylltu gan linellau.

open laptopGoing Virtual?

Write the concept in the middle of your virtual whiteboard in a big font. Show participants how to draw lines, type text, and where the “undo” button is. Consider having them try out writing an idea and drawing a line on a test board before beginning.

Ar ôl i'r amser ddod i ben, dosbarthwch y nodiadau gludiog. Rhowch bum munud arall i bobl nodi unrhyw eiriau sy'n gallu cael eu braslunio'n hawdd, ac yna gofynnwch iddyn nhw dynnu lluniau o'r rhain ar nodyn a'i ludo wrth ymyl y gair.

open laptopGoing Virtual?

Consider whether your virtual whiteboard is good for sketching. Drawing with a mouse is hard. You might want to instead have participants sketch their ideas on paper sticky-notes and post them to an artboard website like Pinterest.

3

Gofynnwch i Bawb Rannu Eu Hadborth

Dewch â phawb yn ôl at ei gilydd ac gofynnwch i bob grŵp hongian y dalenni papur ar y wal. Rhowch ychydig o funudau i gyfranogwyr gerdded o gwmpas yn edrych ar beth mae'r grwpiau eraill wedi'i greu.

Holwch y grŵp llawn am y cysylltiadau roedden nhw wedi'u gweld, y syniadau unigryw neu anghonfensiynol a gafodd eu cyfleu, a'r lluniau a oedd yn drawiadol iddyn nhw am fod yn eiconig neu'n effeithiol. Amlygwch unrhyw ddarluniau sy'n cyfleu tôn arbennig, neu rai sydd efallai dim ond yn gwneud synwyr mewn cyd-destunau neu ddiwylliannau penodol. Trafodwch ba ddarluniau sy'n fwyaf effeithiol i gyfleu cysyniad y stori seiliedig ar ddata a oedd eich man cychwyn.

Sylwch fod ffynonellau ar-lein sy'n gallu'ch helpu i daflu syniadau, fel y Noun Project.